Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw drwy gyflwyniad a chân.
Yn y bennod hon, Lloyd Lewis sy'n adrodd hanes Porth Teigr.
--------
10:19
Yr Anthem Genedlaethol
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon cawn glywed am hanes ein hanthem genedlaethol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ac am y ddau a’i hysgrifennodd hi, Evan a James James. Mae’n stori difyr sy’n cynnwys yr afon Rhondda, sgandal yn y papurau newyddion, yr Hakka, a Thywysog Cymru. Felly ar eich traed, mae’n amser i ni ganu.
--------
12:18
Cranogwen
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon gawn ni hanes Sarah Jane Rees - 'Cranogwen'.
--------
11:14
Y Tywysogion
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.
Yn y bennod hon, teithiwch yn ôl 900 mlynedd i ddarganfod hanes dau o dywysogion enwocaf Cymru: yr Arglwydd Rhys a Llywelyn Fawr. Er roedd y Normaniaid wedi goresgyn tiroedd Lloegr ers tro fe gymerodd sawl canrif iddyn nhw goncro Cymru, diolch i’r Tywysogion Cymreig. Byddwch yn barod am ddadleuon, rhyfela gwaedlyd a llawer o gacen.
--------
11:46
Y Celtiaid
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon, mae Llinos yn archwilio popeth roeddech chi eisiau ei wybod am y Celtiaid. Pwy oedden nhw? Ble redden nhw’n byw? Sut oedden nhw'n byw? A pham roedd trwsus mor bwysig iddyn nhw? Awdur: Llinos Mai
Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones
Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence
Golygydd sgript: Rhys ap Trefor
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)Dylunio: Hefin Dumbrill
Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog i'w cyfarfod! Pwy oedd Owain Glyndŵr a Merched Beca? Pryd cafodd glo ei ddarganfod? Pam ein bod yn siarad Cymraeg o gwbl? Llinos Mai sy’n ein tywys drwy’r cyfan.
Dewch i gyfarfod y dihirod, arwyr a’r bobl gyffredin wnaeth ffurfio cenedl. The history of Wales is full of amazing stories and big characters! Join Llinos Mai on a fun filled journey to discover the history that formed a nation.Awdur: Llinos Mai
Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Dylunio: Hefin Dumbrill