Aller au contenu
Radio Logo

Gwleidydda

BBC Radio Cymru
Dernier épisode

149 épisodes

  • Gwleidydda

    Annwyl Rhun, Annwyl Andy

    25/11/2026 | 35 min
    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n ymuno â Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y llythyr a anfonodd y Prif Weinidog, Andy Burnham, yn gwrthod rhagor o ddatganoli i Gymru am y tro.

    Mae'r tri hefyd yn dadansoddi araith Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies, wedi iddo oroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn gan blaid Reform UK.

    Cofiwch fod modd cysylltu gyda'ch cwestiynau ar gyfer rhaglenni'r dyfodol drwy e-bostio: gwleidydda@bbc.co.uk
  • Gwleidydda

    Be nesa' i Reform yn y Senedd?

    18/11/2026 | 33 min
    Be nesa' i Reform yn y Senedd?
    Wrth i foicot Reform UK o'r Senedd parhau, mae Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn ôl i drafod beth fydd yn digwydd nesaf rhwng y blaid a'r Llywydd. Mae Elliw Gwawr hefyd yn ymuno a'r tri i drafod y diweddaraf.
    Mae wedi bod yn wythnos hanesyddol i Blaid Cymru ar ôl cyhoeddi ei chyllideb yr wythnos hon. Beth mae'r cyfan yn dweud am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru?
    Ac ar ôl cynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno dros y penwythnos. Mae'r pedwar yn trafod faint mae'r blaid wedi dysgu o Etholiad y Senedd ym mis Mai?
  • Gwleidydda

    Beth fyddai Dafydd Êl yn ei wneud?

    11/11/2026 | 33 min
    Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod boicot plaid Reform o gyfarfod llawn y Senedd a'r adroddiad i Lafur Cymru sy'n cael
    Hefyd, mae un o gyd-gadeiryddion y Comisiwn ar Annibyniaeth, Emyr Lewis, yn trafod ei swydd newydd ac wrth i gynhadledd Llafur Cymru cael ei chynnal yn Llandundo dros y penwythnos, mae'r tri yn dadansoddi beth nesa' sydd i'r blaid.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
  • Gwleidydda

    Ydy Cymru'n Cyfri?

    04/11/2026 | 28 min
    A fydd rhagor o ddatganoli yn dod i Gymru ar ôl i Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth gwrdd yn Glasgow?
    Mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod os yw'r berthynas rhwng llywodraethau Caerdydd a Llundain wedi newid yn dilyn y cyfarfod yn yr Alban

    Mae'n tri hefyd yn edrych ymlaen at yr Etholiadau Lleol yng Nghymru ymhen chwe mis.
    Ac ar ôl i'r Democratiaid gipio'r Gyngres yn Washington, beth fydd hyn yn ei olygu i arlywyddiaeth Donald Trump?
  • Gwleidydda

    Cyllideb Dewi Sant?

    28/10/2026 | 29 min
    Mae'n ddiwrnod prysur yn San Steffan! Gyda Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn ei chanol hi yn Llundain a Vaughan Roderick yng Nghaerdydd, y tri sy'n ymateb i gyhoeddiad y Gyllideb!
    Mae nhw hefyd yn ystyried y goblygiadau i Gymru a'r posibilrwydd o etholiad cyffredinol cynnar.
    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Plus de podcasts Actualités
À propos de Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
Site web du podcast

Écoutez Gwleidydda, Global News Podcast ou d'autres podcasts du monde entier - avec l'app de radio.fr

Obtenez l’app radio.fr
 gratuite

  • Ajout de radios et podcasts en favoris
  • Diffusion via Wi-Fi ou Bluetooth
  • Carplay & Android Auto compatibles
  • Et encore plus de fonctionnalités
Gwleidydda: Podcasts du groupe